Am
Gellir gweld adfeilion Eglwys y Santes Fair ar y bryn uwchben hen Westy'r Abbey ac yn wreiddiol gwasanaethodd Blwyf Chapel Hill ym mhen deheuol Tyndyrn. Cynhwyswyd yr ardal ym mhlwyf cyfagos Tyndyrn Parva yn 1902.
Arhosodd yr eglwys, a ailadeiladwyd ym 1866 yn cael ei defnyddio tan 1972 cyn cael ei dinistrio gan dân yn 1977. Saif ar safle capel canoloesol mae'n debyg wedi ei adeiladu fel encil i fynachod Abaty Tyndyrn neu i'r gymuned seciwlar sy'n tyfu tu allan i furiau'r Abaty.
Mae'r fynwent yn cynnwys nifer o henebion diddorol gan gynnwys un i Peter Carr a fu farw ar y 14eg o Hydref 1913 yn nhrychineb Pwll Senghennydd a bedd rhyfel i Private B Hall, dinesydd Americanaidd a ymrestrodd yn y Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn a bu farw yn Ysbyty Connaught, Farnborough ar 5ed Mawrth 1919 yn 22 mlwydd oed.
Hefyd o fewn y fynwent mae beddrod sarcoffagus rhestredig wedi'i adfer, y credir ei fod yn perthyn i Richard White, lesddaliwr gwaith haearn cyfoethog a fu farw ym 1765. Roedd Richard White yn fab i George White, a oedd yn berchen ar Efail y Weir Newydd a'r Ffwrnais yn Symonds Yat a Efail Trefynwy.
Mae'r fynwent yn dal i gael ei defnyddio'n achlysurol ar gyfer claddedigaethau. Mae partïon gwaith lleol yn dal i geisio cadw'r ardal yn daclus ond dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol bod yr adfail hwn yn cael ei ystyried yn anniogel a bod mynediad yn wynebu eu risg eu hunain.
Cyfleusterau
Archebu a Manylion Talu
- Mynediad am Ddim