Os ydych yn mwynhau hanesion y Brenin Arthur, Camelod, Myrddin, Gwenhwyfar a chymaint o'r Stori Arthuraidd chwedlonol, yna mae gennych Sieffre o Fynwy i ddiolch. Creodd ei lyfr o’r 12fed ganrif Hanes Brenhinoedd Prydain y chwedl bwerus a wyddom heddiw, a ysbrydolodd awduron i greu fersiynau newydd o'r chwedl ledled Ewrop, yn ogystal â'n cyflwyno i gymeriadau eraill megis Brenin Llŷr Shakespeare a Chynfelyn.
Efallai mai Sieffre o Fynwy (fel y’i gelwir ef ei hun) oedd y storïwr canoloesol mwyaf ac yn un o enwogion Sir Fynwy ym mhob ystyr. Darganfyddwch fwy amdano yn Neuadd Sirol Trefynwy, darganfyddwch dref ei eni ac ewch ar daith ar ein Llwybr 'Sieffre o Fynwy'.
Y Cylch Chwedlau
Ewch i'r Hen Orsaf, Tyndyrn, i weld Sieffre o Fynwy ymysg arwyr eraill Sir Fynwy yn y Cylch Chwedlau (ac efallai bachu cacen!).
Yna cymerwch Lwybr 'Sieffre o Fynwy' o amgylch Trefynwy. Mae'n 1.75 milltir (2.75 cilomedr) o hyd ac mae'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio, cadeiriau olwyn a sgwteri trydan. Caniatewch o leiaf 2 awr i gwblhau'r llwybr.
Cerddwch Lwybr Sieffre o Fynwy