Dewch i weld Gwastadeddau Gwent ar lannau Môr Hafren yn ne Sir Fynwy. Mae’n ardal sydd wedi ei ffurfio gan hanes, yn cynnwys tir wedi ei ennill o’r môr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, gyda thystiolaeth bod hyn yn parhau hyd heddiw. Mae’r iseldir hwn â’i awyr eang yn cynnwys 8 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n bwysig yn ecolegol. Bydd hyd at 90,000 o adar hirgoes ac adar dŵr yn ymweld â Môr Hafren oherwydd, gyda’r amrywiaeth mwyaf yn y byd yn uchder y llanw, mae’n ddelfrydol ar gyfer gaeafu. Gallwch fynd yn agos at adar a bywyd gwyllt arall yr ardal yng ngwarchodfa gwlyptir Cors Magwyr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ac yng Ngwlyptir Casnewydd yr RSPB gerllaw.
Archwiliwch hanes a threftadaeth yr ardal ar hyd yr oesoedd, o waliau Rhufeinig trawiadol Caerwent, i Gastell...Darllen Mwy
Dewch i weld Gwastadeddau Gwent ar lannau Môr Hafren yn ne Sir Fynwy. Mae’n ardal sydd wedi ei ffurfio gan hanes, yn cynnwys tir wedi ei ennill o’r môr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, gyda thystiolaeth bod hyn yn parhau hyd heddiw. Mae’r iseldir hwn â’i awyr eang yn cynnwys 8 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n bwysig yn ecolegol. Bydd hyd at 90,000 o adar hirgoes ac adar dŵr yn ymweld â Môr Hafren oherwydd, gyda’r amrywiaeth mwyaf yn y byd yn uchder y llanw, mae’n ddelfrydol ar gyfer gaeafu. Gallwch fynd yn agos at adar a bywyd gwyllt arall yr ardal yng ngwarchodfa gwlyptir Cors Magwyr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ac yng Ngwlyptir Casnewydd yr RSPB gerllaw.
Archwiliwch hanes a threftadaeth yr ardal ar hyd yr oesoedd, o waliau Rhufeinig trawiadol Caerwent, i Gastell Normanaidd Cil-y-coed, i dreftadaeth fyw Pysgotwyr Rhwydi Gafl y Graig Ddu.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymlwybro ar hyd arfordir Gwastadeddau Gwent o Gas-gwent i Gaerdydd, cyn mynd ymlaen hyd holl arfordir Cymru i Queensferry. I’r rhai sy’n chwilio am lai o her, mae digonedd o lwybrau cylchynol gwastad ar y Gwastadeddau, sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer cerddwyr o bob gallu.
Darllen Llai