Daeth Bee Costell-Bates, awdur erthyglau’n ymwneud â bwyd a chynhyrchydd, â rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod rhagorol Sir Fynwy ynghyd i rannu’r hyn sy’n gwneud y gornel hon o Gymru yn gymaint o hafan ar gyfer bwyd-garwyr.


aberavenny food


Hafan ar gyfer bwyd-garwyr

Yn hafan ar gyfer bwyd-garwyr, mae gan Sir Fynwy fendigedig 300 milltir sgwâr o dyfwyr a chynhyrchwyr sy’n ysbrydoli. Maent yn gweithio o fewn ystod o hinsoddau micro ac amgylcheddau unigryw i ddatblygu ystod anhygoel o gynhwysion a blasau godidog drwy’r flwyddyn. Mae charcutières, mygfeydd, gwneuthurwyr caws a’n tyfwr cloron ein hunain wrth eu bodd gyda thiriogaeth fynyddig, afonydd a choetiroedd gwych Sir Fynwy. Mae morfeydd heli Aber yr Hafren hefyd yn rhoi amgylchedd perffaith i natur gynhyrchu ei danteithion gwyllt blasus ei hun gyda phob llanw. Gallwch archebu profiad fforio am fwyd a rhoi cynnig ar y danteithion naturiol hyfryd hyn drosoch eich hun! O flasau artisan a chynnyrch gwobrwyol i fwytai gyda sêr Michelin a Gŵyl Fwyd y Fenni – mae’r cyfan yma ar garreg y drws yn Sir Fynwy. Felly gadewch i ni fynd â chi drwy rai o ddanteithion gwyllt a gorwych y sir fendigedig yma!


Gŵyl Fwyd y Fenni

Mae gŵyl fwyd flynyddol Sir Fynwy yn adnabyddus drwy’r byd, gan ddenu, dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Bob mis Medi, mae cynhyrchwyr blaenllaw o Sir Fynwy a thu hwnt yn cyflwyno casgliad gwych o fwydydd a diodydd artisan. Mae’n bendant yn un o uchafbwyntiau blwyddyn goginiol y Deyrnas Unedig. Mae’n gyfle i gwrdd â chefs enwog a beirniaid bwyd, yn ogystal â sêr The Kitchen Cabinet a Saturday Kitchen y BBC.

www.abergavennyfoodfestival.com


The Angel Bakery, Y Fenni

Os ydych yn adnabod Gwesty’r Angel, yna galwch heibio The Angel Bakery gyferbyn ar 50 Cross Street. Dywed Becka Fletcher, y rheolwr, fod eu cwsmeriaid cyson yn cynnwys pobl leol, cerddwyr, seiclwyr a phobl ar eu gwyliau. Maent yn gweithio gyda Hard Lines Coffee yn ystod Gŵyl Fwyd y Fenni i greu cynnyrch crwst blasus unigryw. Hefyd blaswch fara surdoes, croissants, croissants almwn a pains au chocolat The Angel a’u cynnyrch crwst arbennig ar benwythnosau gyda ffrwythau tymhorol. “Mae’r tymhorau a chynnyrch lleol yn dylanwadu arnom,” meddai Fletcher, sy’n ychwanegu fod y becws hefyd yn gwerthu siytni, mêl a seidr lleol. Meddyliwch am quiches asbaragws a ricotta, ynghyd â bara surdoes tymhorol tebyg i eirin sychion a chnau Ffrengig a had llin wedi’i dostio. Codi awydd bwyd ar unrhyw un?

Edrychwch ar wefan The Angel Bakery


Black Mountains Smokery

Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol ar gyfer picnic neu farbeciw, neu os yw’ch teulu wrth eu bodd yn rhoi cynnig ar flasau newydd, mae dewis eang o gynnyrch mwg hyfryd yn Black Mountains Smokery. Mae’r ffefrynnau mawr yn y fygfa wobrwyol yma, a sefydlwyd yn 1996 ac sydd wedi ennill llawer o wobrau, yn cynnwys eog, hwyaden a chyw iâr a chawsiau mwg – i gyd yn dod yn barod i’w gweini, ac yn llawn dop o flasau bendigedig! Mae’r holl gynnyrch ar gael o’u gwefan, mân-werthwr ar-lein Yumbles.com yn ogystal â siopau fferm a delis annibynnol.

www.smoked-foods.co.uk


Blorenge Mountain Honey

Dechreuodd Blorenge fel hobi cadw gwenyn a ddaeth yn fusnes. Gallant werthu gwenyn i chi ond os byddai’n well gennych fwyta mêl blasus y gwenyn, yna gallwch brynu Blorenge Mountain Honey mewn amrywiaeth o siopau artisan (tebyg i The Angel Bakery) yn Sir Fynwy neu brynu’n uniongyrchol o’u gwefan. Mae holl wenyn Blorenge yn rhai Prydeinig yn byw mewn cynefin mor hyfryd fel yr  ymddengys eu bod wedi datblygu natur hynas. Dim cynlluniau i gadw gwenyn ar hyn o bryd? Yna archebwch jar o Wildflower Summer Honey neu’r Bulk Honey, sydd ar gael mewn tybiau maint 1.5kg, 3kg, 7.5kg a 15kg.

Gwefan Blorenge Mountain Bees


Brooke’s Farm Dairy

Mae amgylchedd yn golygu popeth i Brooke’s Wye Valley Dairy o Devauden, Cas-gwent sydd wedi ennill gwobrau am eu hufen iâ a’u caws. Mae hyd yn oed wedi enwi ei holl gawsiau ar ôl afonydd a choedwigoedd yr ardal. “Mae’r pridd, tywydd a’r hinsawdd yn cynhyrchu ein glaswellt toreithiog, sydd mor bwysig i’n gwartheg,” meddai Hannah Turner, y perchennog. Mae gwartheg Jersey wrth eu bodd yn pori yn agos at Afon Cwm Angiddy a nant Fedw sy’n rhedeg drwy fferm Brooke’s. A chafodd Turner ei hysbrydoli gan goedwig y Wenallt i lansio caws glas, sydd eisoes wedi ennill dwy wobr Great Taste. Mae Brooke’s Dairy yn gwneud un o’r ychydig iawn o fathau hufen ia lle caiff popeth ei fridio, ei odro a’i wneud ar y fferm. Mae eu cawsiau – Fedw, Angiddy a Blue Wenallt – ar werth yn The Marches Deli, Trefynwy, Morris’s ym Mrynbuga a Newhall yng Nghas-gwent, ac mae hufen iâ Brooke’s ar gael yng Nghastell Cas-gwent a gorsaf reilffordd boblogaidd Tyndyrn.

Gwefan Brookes Wye Valley Dairy


brookes


Crafty Pickle Company

Yn syniad dau wyddonydd a maethegwyr a gwrdd tra’r oeddent yn astudio ym Mhrifysgol Aberdeen, tyfodd The Crafty Pickle Company o syniad yn 2019 i fusnes eplesu cyffrous! Gan gynhyrchu popeth o kimchee a sauerkraut i kombucha a koji, gall Crafty Pickle hefyd eich helpu i wneud eich cynnyrch eich hun yn ei weithdai eplesu wyneb yn wyneb! Gallwch weld tîm Crafty Pickle wrthi’n eplesu yn Bent Green Farm, Crug neu archebu gweithdy ar-lein yma.

pickle


Gourmet Gatherings

Bob hyn a hyn, daw rhywun draw sy’n syfrdanu bwyd-garwyr ac i mi y fforiwr bwyd hynod Chloé Newcomb Hodgetts yw hynny. Mae wedi fforio bwyd ym mhobman – o goedwigoedd gwyllt Sir Fynwy i ddyfroedd cynnes y Caribî. “Mae mwyafrif helaeth holl rywogaethau planhigion gwyllt a ffyngau Prydain ar gael yn Sir Fynwy,” meddai. Dysgodd ei theulu i’r biolegydd morol sut i fforio a bu’n coginio gwleddoedd gwyllt o amgylch tân gwersyll ac wrth lan y dŵr ym Mhrydain byth ers hynny. Rydym yn lwcus fod Chloé yn byw yma yn Sir Fynwy lle mae’n cynnig calendr blwyddyn gron o ddyddiau fforio bwyd i deuluoedd yn ogystal â chleientiaid corfforaethol. Aiff Chloé â chi ar daith fythgofiadwy o amgylch cyfrinachau gorau Sir Fynwy lle byddwch yn fforio bwyd ac yna mwynhau ei gwledd o gynnyrch anhygoel. Meddyliwch am Sbigoglys Môr, Llwylys Cyffredin, Madarch Porcini a Choden Fwg, ynghyd ag arogl clof cynnes Mynodlys Coed – a byddwch hefyd yn darganfod mor hyfryd yw’r Pinwydd Morol. Ewch i wefan Chloé a threfnu cyfle fforio bwyd heddiw – mae cyffro gwyllt yn eich disgwyl!!


gathering


Trealy Farm Charcuterie

O pan oedd yn ifanc roedd James Swift yn corddi menyn gyda’i fam-gu yn Ffrainc ac yn prosesu cynhwysion cartref â llaw. Felly nid oedd ond naturiol y byddai un dydd yn sefydlu ei gwmni bwyd ei hun. Mae’n debyg y byddai dyfnder yr wybodaeth a’r wyddoniaeth mewn eplesu cig a gafodd Swift ar draws Ewrop dros y blynyddoedd yn ennill gradd iddo, ac mae ei ymroddiad i arfer gorau wedi helpu i ennill llu o wobrau aur i Trealy Farm. Heddiw, mae Trealy Farm yn gwneud 39 o fathau cynnyrch, o chorizo a salami i  goler aer-sychu ‘coppa’. Caiff hyd at 7 tunnell fetrig o gynnyrch charcuterie o’r radd flaenaf eu gwerthu bob blwyddyn – a wneir o fridiau prin o foch, cig eidion, cig hwyaden, cig carw a chig oen, mae’r holl gynnyrch yn pori’n rhydd, llesiant uchel neu wedi eu cael o’r gwyllt. Mae ffefrynnau Swift ei hun yn cynnwys  bacwn, salami byrbryd ffenigl a chilli, coler aer-sychu coppa a boudin noir. Cadwch eich llygaid ar agor am flasau newydd yn www.trealyfarmcharcuterie.co.uk neu delis a siopau fferm ar draws Sir Fynwy.


Welsh Truffle Company

Mae arbenigwyr hinsawdd yn rhagweld y daw’r Deyrnas Unedig yn brif ganolfan cloron y byd erbyn 2030, gan oresgyn Ffrainc, yr Eidal a Sbaen fel prif feithrinwyr cloron haf a chloron gaeaf du – a gaiff hefyd ei galw yn Perigord y mae cymaint o alw amdanynt. Mae un tyfwr cloron gyda gweledigaeth, sydd wedi plannu a meithrin11 erw o berllan yn 2008, wedi rhoi Sir Fynwy ar flaen y gad, Dywedodd Matt Simms, sefydlydd The Welsh Truffle Company, fod ei gloron gwanwyn haf a gaeaf yn uchel tu hwnt mewn persawr a blas oherwydd yn rhannol y crynhoad uchel o haearn, gopr, magnesiwm a sinc. P’un ai ydych yn edrych am bowdr planiad, prynu cloron ffres neu wedi rhewi, neu yn credu efallai y gellid hyfforddi eich ci i hela am gloron, mae trysorfa cloron ar gael yn www.welshtruffles.com

Mae Bee Costello-Bates yn awdur-cynhyrchydd llawrydd sy’n byw yn Swydd Henffordd. Mae’n ysgrifennu am gynhyrchwyr bwyd a diod gwych y Gororau, sy’n cynnwys pedair sir ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr – Sir Fynwy, Swydd Henffordd, Powys a Swydd Amwythig. Gallwch weld ei chynnwys Instagram yn @TasteTheMarches

Cysylltiedig

Abergavenny Food Festival
Gŵyl Bwyd / Diod
Abergavenny Food Festival in abergavenny castle with crowds watching firepit display on sunny day looks fun

120+ o gynhyrchwyr, 80+ o ddigwyddiadau, 16+ o Ddeddfau Cerddoriaeth Fyw. Coginio dros Dân, Demos Cogydd Byw, Sgyrsiau a Dadleuon, Parti yn y Castell a llawer mwy!

Gourmet Gatherings
Bushcraft/Fforio
Gourmet Gatherings

Rwy'n foragwr proffesiynol, yn angerddol am bob agwedd ar fwyd gwyllt.

The Crafty Pickle
Cynhyrchydd Bwyd a Diod Lleol
The Crafty Pickle

Eplesu wedi'i harneisio i frwydro yn erbyn gwastraff bwyd Rydym yn ddau faethegydd sy'n creu bwydydd wedi'u eplesu byw yn Ne Ddwyrain Cymru.

Brooke's Wye Valley Dairy Co
Cynhyrchydd Bwyd a Diod Lleol
Hannah and cows grazing

Mae llaeth Brooke yng nghanol gwledig Dyffryn Gwy, gan gynhyrchu hufen iâ a chaws sydd wedi ennill gwobrau.

Trealy Farm
Cynhyrchydd Bwyd a Diod Lleol
Trealy Farm

Yn Nhrealy Farm Charcuterie rydym yn cyfuno technoleg arloesol â dulliau traddodiadol a ddysgwyd o hyfforddiant helaeth a pharhaus yn Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, yr Almaen, yn ogystal ag ar draws y DU, i wneud ystod eang o gynhyrchion cig o ansawdd uchel.

The Angel Bakery
Becws
Angel Bakery abergavenny bread and cakes and coffee

Mae'r Angel Bakery yn Y Fenni yn gwerthu bara blasus a nwyddau wedi'u pobi yn y safon uchel mae pobl yn ei ddisgwyl gan Gwesty'r Angel.

The Welsh Truffle Company
Siopa ar-lein
The Welsh Truffle Company

Mae Cwmni Tryfflau Cymru yn dyfwyr tryfflau haf a elwir fel arall yn Trufflau bwrgwyn (Tuber Aestivum / Uncinatum) a Trufflau Gaeaf (Tuber Melanosporum) a elwir fel arall yn Trufflau Perigord.

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.