Does dim ffordd well o godi’ch hwyliau na mynd allan i'r awyr iach a chael rhywfaint o ymarfer corff. Bydd taith gerdded wych yn ein cefn gwlad anhygoel yn codi’ch hwyliau yn ogystal â helpu i wrthbwyso rhai o'r calorïau ychwanegol y byddwch yn bwyta dros gyfnod yr ŵyl.
Dyma bump o'n hoff deithiau cerdded gaeafol, o deithiau cerdded byr hawdd ar dir gwastad i lwybrau heriol hirach a mwy serth. (Gallwch ddod o hyd i ddetholiad mwy cynhwysfawr o deithiau cerdded yma).
Taith gerdded gyda thair tafarn!
(The Boat Inn, Redbrook)
Os ydych chi’r fath o berson sy'n meddwl mai rhan orau taith gerdded y gaeaf yw'r dafarn ar y diwedd, y daith gylchol hon o Drefynwy i Redbrook, sy'n cynnwys tair tafarn (The Queen's Head, Trefynwy, The Bell Inn, Redbrook a The Boat Inn, Penallt), yw’r daith gerdded i chi! Mae'r daith gylchol 6.3 milltir o hyd yn dechrau yn Nhrefynwy ac yn anelu'n syth i fyny'r Cymin am olygfeydd hardd dros Sir Fynwy tuag at Fannau Brycheiniog. Yna byddwch yn dilyn Llwybr Clawdd Offa i Redbrook, cyn cerdded yn hamddenol ar lan yr afon yn ôl ar hyd Llwybr Dyffryn Gwy i Drefynwy. Mae hynny'n ddiod (neu ddwy) haeddiannol i unrhyw un.
Cliciwch yma am fwy o fanylion ar y daith
Ymwelwch â'r Cymin
Darganfod Trefynwy
Taith gerdded wych ar gyfer rhai bach a mawr!
(Castell Cleidda)
Gall y teulu cyfan fwynhau'r daith gymharol wastad hon trwy Ddyffryn Wysg ger Rhaglan. Mae'n daith gylchol 3 milltir sy'n cynnwys parcdir Ystad Castell a Pharc Cleidda o'r 18fed ganrif, gyda golygfeydd gwych i fyny'r dyffryn. Gan ei bod yn daith gerdded weddol fyr, cysgodol, mae'n tueddu i fod yn un y gall y plant ei fwynhau hefyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio'r Clytha Arms ar hyd y llwybr ar gyfer gwydriad o win cynnes.
Darganfyddwch fwy am y daith yma
Dringwch y mynydd sanctaidd i wylio'r wawr
(@willdaviesphotography - Edrych tua'r dwyrain o'r Ysgyryd Fawr)
Mae dyddiau gaeafol byrrach yn golygu nad oes rhaid codi mor gynnar i fwynhau’r wawr (mae’r haul yn codi ar ôl 8am am y rhan fwyaf o Ragfyr yn y Fenni). Mae cefnen hir, serth yr Ysgyryd Fawr, sy’n wynebu’r dwyrain yn ei wneud yn lle perffaith i wylio’r haul yn codi dros gefn gwlad bryniog a chaeau clytwaith Sir Fynwy.
Ewch i fyny'r Ysgyryd Fawr i wylio'r wawr
Ymweld â'r Fenni
Gwylio adar wrth gerdded
Mae corsydd a gwlyptiroedd Gwastadeddau Gwent, y tir isel ger Aber Hafren rhwng Cas-gwent a Chasnewydd, wedi cael ei adfer o'r môr ers cyfnod y Rhufeiniaid. Gyda'r ail amrediad llanw uchaf yn y byd, mae Aber Afon Hafren yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt ac yn darparu amodau gaeafu delfrydol ar gyfer hyd at 90,000 o adar hirgoes ac adar gwyllt.
Dewch i weld faint o adar sy’n gaeafu y gallwch chi weld ar ein Taith Gerdded Iechyd y Graig Ddu, taith gerdded 3 milltir gyda golygfeydd dros Aber Afon Hafren ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Rhowch gynnig ar y Daith Gerdded Iechyd y Graig Ddu
Ymestynnwch eich taith gerdded drwy deithio ymhellach ar Lwybr Arfordir Cymru
Ewch i Lyn Llandegfedd am fwy o gyfleoedd gwylio adar
Archwilio Gwastadeddau Gwent
Taith gerdded gysgodol ar hyd llwybrau llawn
Rydym oll wedi clywed y dywediad "does dim y fath beth â thywydd gwael, dim ond dillad anaddas". Ond os ydych yn chwilio am daith gerdded gysgodol mewn tywydd garw, rhowch gynnig ar y llwybr 5.5 milltir o'r Fenni i Gofilon, sy'n dilyn llwybrau wedi'u gwneud yn llawn (tarmac neu raean) ar hyd yr hen reilffordd a llwybr cludo Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
Cerddwch lwybr cylchol y Fenni i Gofilon