Dysgwch sgiliau newydd yn Sir Fynwy gydag ystod eang o weithdai a chyrsiau, o ysgolion pobi a choginio i wyna a garddio.
Ymunwch â chwrs coginio preswyl neu weithdy undydd gwneud bara. Os ydych yn joio jamiau neu'n selog am siytni, beth am roi cynnig ar ddiwrnod o jamio a chreu eich jariau eich hun o jam llawn blas i fynd adref. Fel arall, ymunwch â chwrs gwneud seidr, gwneud medd neu gadw gwenyn, neu gwrs fforio bwyd gwyllt neu dysgwch adeiladu popty pitsa clai sy'n llosgi coed, yn Humble by Nature, ar ochr bryn uwchben Trefynwy.
Dewis arall yw ymuno â gweithdy a chreu eich persawr pwrpasol eich hun yn Monmouth Botanicals, neu'ch jin eich hun yn Nistyllfa Silver Circle yn Nyffryn Gwy neu yn Nistyllfa’r White Hare ym Mrynbuga.
Os ydych wrth eich bodd yn garddio yna beth am gymryd un o gyrsiau Gardd Nant y Bedd a dysgwch sut i wneud compost perffaith neu olosg cartref, neu sut i arddio ar gyfer bywyd gwyllt.
Os mai celf a chrefft yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, edrychwch ar Craft Renaissance, Court Cupboard neu Chapel Cottage Studios; i gyd yn cynnig cyrsiau dan arweiniad artistiaid a gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i rywle hyfryd i aros gerllaw.
Fel arall, dysgwch rywbeth newydd gan un o'r siaradwyr gwybodus sy'n ymweld â Sir Fynwy.