Pan fo'r awyr yn las a'r haul yn tywynnu does unman yn debyg i Sir Fynwy. Fodd bynnag, ar ddiwrnod poeth o haf rydym yn gwybod bod pawb eisiau oeri a dod o hyd i'r cysgod. Felly gyda hynny mewn golwg, dyma ein chwe hoff daith gerdded haf yn Sir Fynwy, pob un ohonynt yn mwynhau cysgod helaeth ac awelon oerbraf.
1. Taith Gerdded Gorllewin Camlas Llan-ffwyst
Taith gerdded 2.8 milltir ar hyd llwybr beicio Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu o Lan-ffwyst i Gofilon ac yn ôl eto. Mae hon yn daith hyfryd iawn ar hyd llwybrau lefel yn bennaf, a gan fwyaf yn y cysgod.
Cliciwch yma am fwy ar y daith hon
2. Y Fenni i’r Ysgyryd Fach
Llai clodwiw na'i 'frawd mwy', mae'r Ysgyryd Fach yn dal i gynnig golygfeydd gwych ei hun, ac mae'r daith gerdded hon yn bennaf ar hyd llethrau coediog sy'n cynnig digon o gysgod. Mae'n dechrau ac yn gorffen yn y Fenni, felly mae yna lawer o lefydd i fwyta ac yfed wedi’r daith.
Cliciwch yma am fwy ar y daith hon
3. Redbrook i Benallt

Taith gerdded gyda thafarndai ar ddau ben y daith, beth allai fod yn well yn yr haf? Mae llawer o'r llwybr hwn ar lonydd tawel yn Nyffryn Gwy coediog, gan gynnig llawer o gysgod.
Cliciwch yma am fwy ar y daith hon
4. Taith Gerdded Piercefield
Taith gerdded 5 milltir drwy Ystâd Piercefield yn Nyffryn Gwy, gan fynd trwy nifer o goetiroedd a gyda golygfeydd gwych i lawr Dyffryn Gwy isaf. Mae tafarn Piercefield tua hanner ffordd o amgylch y daith gerdded, gan ganiatáu ar gyfer arhosfan lluniaeth os oes angen.
Cliciwch yma am fwy ar y daith hon
5. Lady Hill Brynbuga

Taith gerdded 3 milltir drwy goetir i'r gogledd o Frynbuga. Mae'r daith yn dechrau ac yn gorffen ym Mrynbuga, gan ganiatáu ar gyfer digon o lefydd i chi gael lluniaeth wedyn.
Cliciwch yma am fwy ar y daith hon
6. Taith Iechyd Castell Cil-y-coed
.JPG)
Taith gerdded 1.3 milltir drwy Barc Gwledig 55 erw Castell Cil-y-coed. Mae'r daith gerdded yn bennaf trwy lonydd coediog o amgylch y castell, a gallwch ymweld â Chastell Cil-y-coed ei hun wedyn am luniaeth. Mae'r castell ar agor dim ond rhwng mis Ebrill i ddiwedd mis Hydref bob blwyddyn, felly mae hon yn daith gerdded berffaith ar gyfer misoedd yr haf.
Cliciwch yma am fwy ar y daith hon