Gyda phyllau nofio, campfeydd, neuaddau chwaraeon amlbwrpas ac amrywiaeth enfawr o ddosbarthiadau ffitrwydd, byddwch bob amser yn gweld rhywbeth i'w wneud yng nghanolfannau hamdden Sir Fynwy.
Mae amser penodol ar gyfer nofio am ddim yn mhob un Ganolfan Hamdden:
- Canolfan Hamdden Cas-gwent: Pob dydd Gwener am 6:00pm
- Canolfan Hamdden y Fenni: Pob dydd Sul rhwng 10.30 a 11.30am
- Canolfan Hamdden Trefynwy: Pob dydd Sul rhwng 10.30 a 11.30am
- Canolfan Hamdden Cil-y-coed: Pob dydd Sadwrn rhwng 11.30am a 12.45pm
Hefyd, yng nghanolfan Hamdden Trefynwy mae Canolfan Chwarae 3 llawr Trefynwy sy'n addas ar gyfer babanod i blant 11 oed. Mae yna hefyd gaffi gwych i rieni ddal i fyny dros goffi a phlant i adennill eu hegni.
Mae ein canolfannau hamdden yn cynnig y canlynol i gyd:
4 campfa o'r radd flaenaf gydag offer Technogym a meddalwedd olrhain ffitrwydd MyWellness
Dros 160 o ddosbarthiadau ffitrwydd gan gynnwys Sbin, Ymarfer Bocsio, Ioga a Phwysau Tegell.
4 Pwll nofio (pob un â theclyn codi a grisiau hygyrch)
1 cae 3G dan lifoleuadau wedi’i gymeradwyo gan FIFA yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed
6 llys sboncen (Y Fenni, Cil-y-coed a Threfynwy)
4 cae glaswellt ffug maint llawn
Neuaddau chwaraeon amlbwrpas 4 cwrt
2 gampfa amlbwrpas (Y Fenni a Threfynwy)
3 ardal gemau aml-ddefnydd awyr agored 4 cwrt (Y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent)
2 cae gemau aml-ddefnydd awyr agored ar gyfer pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd neu dennis (Y Fenni a Threfynwy)
4 sawna (Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy)
4 ystafell newid anabledd pwrpasol gyda theclyn codi trac nenfwd, tabl addasadwy newid uchder a chawod hygyrch, caeau gwair awyr agored amrywiol, cyfleusterau newid anabl, parcio am ddim ar draws pob safle.
Mae'r pedair canolfan hamdden ar agor am 6.30am i ganiatáu amser ychwanegol i bobl cyn y diwrnod prysur o'u blaenau. Mae'r canolfannau hamdden, sydd wedi'u lleoli yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, yn cynnig croeso cynnes gyda chefnogaeth yn ogystal â chyfleuster cymunedol cyfleus sydd â llawer i'w gynnig am bris gwych.