Mae coed Sir Fynwy yn newid i fod yn olygfa anhygoel o liwiau yn hydref - yn llawn coch, oren ac aur. Dyma rai o’r teithiau cerdded gorau ar gyfer yr hydref er mwyn gwerthfawrogi’r dail yn newid eu lliw.
1. Taith gerdded Pentref Llandogo
Taith gerdded 3 milltir drwy'r goedwig o gwmpas pentref Llandogo yn Nyffryn Gwy, sydd yn cynnig golygfeydd anhygoel i lawr ar hyd Dyffryn Gwy.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y daith gerdded hon
2. Taith gerdded Parc Llanofer
Taith gerdded weddol fflat yn dilyn llwybrau yn y goedwig a thir y parc o gwmpas Gardd Llanofer, cyn gweld lliwiau anhygoel y coed sydd wedi eu lleoli ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y daith gerdded hon
3. Clytha a Betws Newydd
Taith gerdded 6 milltir yn Nyffryn Gwy, gyda golygfeydd hydrefol ffantastig tuag at Ddinas-y-bwlch a Bannau Brycheiniog.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y daith gerdded hon
4 Tyndyrn i Benteri
Taith gerdded 5.3 milltir drwy Ran Isaf Dyffryn Gwy hyd at Gaer Hill, gyda golygfeydd ffantastig i lawr tuag at Gas-gwent.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y daith gerdded hon
5. Wentwood i Gray Hill
Dewch i weld lliwiau hydrefol y goedwig hynafol yn Wentwood, a hynny islaw ac uwchlaw wrth i’r llwybr fynd â chi drwy’r goedwig, ac yna’n uchel i fyny ar Gray Hill. Mae’r copa yn cynnig golygfeydd gwych dros Aber yr Afon Hafren a Gwastadeddau Gwent.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y daith gerdded hon