I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Rheoli Cyrchfan > Holiadur Cyrchfan
Cwblhewch yr arolwg hwn i helpu i lunio'r ffordd y mae twristiaeth yn cael ei datblygu, ei rheoli a'i hyrwyddo yn y sir, a chael cyfle i ennill taleb blasu gwin i ddau o winllan White Castle.
I ddechrau'r arolwg cliciwch ar y ddolen berthnasol isod
Rwy'n fusnes yn Sir Fynwy sy'n ymwneud â'r sector twristiaeth
Pwrpas yr arolwg
Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Sir Fynwy ac yn cynhyrchu incwm er mwyn cefnogi amrywiaeth eang o fusnesau sy'n elwa o wariant gan ymwelwyr. Yn ôl ffigurau a ddarparwyd gan y dangosydd economaidd twristiaeth STEAM (Monitor Gweithgaredd Economaidd Twristiaeth Scarborough), daeth y 2.29m o ymwelwyr â Sir Fynwy yn 2023 â bron i £329 miliwn i'r economi leol a chefnogi 3,462 o swyddi llawn amser. Mae gwariant ymwelwyr hefyd yn helpu i gadw busnesau a gwasanaethau gwledig yn hyfyw.
Er bod twf economaidd yn bwysig, mae angen i ni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwerth economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol os ydym am ddatblygu twristiaeth yn gynaliadwy yn Sir Fynwy. Rydym am ddatblygu economi ymwelwyr sydd fwyaf buddiol i bawb, trwy ddenu'r mathau cywir o ymwelwyr, yn y niferoedd cywir, yn y mannau cywir, ac ar yr adeg iawn o'r flwyddyn er mwyn osgoi effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd a / neu ddifetha ansawdd bywyd pobl sy'n byw mewn cyrchfannau twristiaeth poblogaidd yn y sir. Bydd hyn yn sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i fwynhau profiad cadarnhaol yma a bod cymunedau Sir Fynwy yn parhau i gynnig croeso cynnes.
Mae rheolaeth y gyrchfan i ymwelwyr yn cael ei arwain gan Gynllun Rheoli Cyrchfan strategol Sir Fynwy. Mae'r Cynllun Rheoli Cyrchfannau presennol, a gymeradwywyd gan Gabinet Cyngor Sir Fynwy yn 2018, ac a oruchwylir gan Bartneriaeth Cyrchfannau Sir Fynwy, i fod cael ei adolygu yn fuan ac rydym yn gofyn i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr am eu barn ar sut mae'r sir yn cael ei datblygu, ei rheoli a'i marchnata ar gyfer twristiaeth yn y dyfodol.
Mae'r arolwg yn cau ar 15 Hydref 2024.
Pa mor hir fydd yr arolwg yn ei gymryd?
Mae'r arolygon busnes, ymwelwyr a phreswylwyr yn wahanol hyd ac yn cymryd cyfnodau amrywiol o amser i'w cwblhau. Mae'r amser a gymerir i gwblhau pob arolwg fel a ganlyn:
Arolwg Busnes - 8 munud
Arolwg Preswylwyr - 6 munud
Arolwg Ymwelwyr - 13 munud
Os ydych yn dymuno gadael sylwadau ychwanegol, mae cyfle ar ddiwedd pob arolwg. Diolch am eich amser a'ch diddordeb.