I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Pethau i'w gwneud > Gweithgareddau > Nofio > Nofio dŵr agored a gwyllt
Dewch mewn – mae’r dŵr yn hyfryd!
Er bod nofio wedi bod yn weithgaredd poblogaidd yn y DU ers cenedlaethau, mae nofio yn yr awyr agored yn y môr, llynnoedd ac afonydd yn mwynhau adfywiad, ac mae'r manteision i iechyd bellach wedi eu cofnodi'n dda. Mae Sir Fynwy yn ffodus iawn i gael sawl lle anhygoel lle gallwch fwynhau nofio gwyllt fel y'u gelwir neu nofio dŵr agored. Yn well fyth, os ydych chi'n newydd i'r gweithgaredd hwn, mae sesiynau wedi'u trefnu i'ch cyflwyno i nofio’n ddiogel mewn llynnoedd ac afonydd.
Mae Angela Jones yn rhedeg cyrsiau Nofio Gwyllt mewn llyn preifat ar ystâd brydferth Old-Lands, sydd wedi bod yn yr un teulu ers y 1800au, ac sy’n cael ei rhedeg ar egwyddorion gwyrdd traddodiadol. Mae'n lle perffaith i fagu eich hyder fel nofiwr awyr agored - beth bynnag fo'ch oedran a'ch gallu, ac mae ganddo'r manteision ychwanegol o gwt newid dillad ac eco-doiled. Mae digwyddiadau ar gyfer dechreuwyr llwyr, i wellhawyr sydd eisiau adeiladu stamina a ffitrwydd mewn dŵr oer, a hyd yn oed nofio nos o dan y sêr!
Beth am ymestyn eich amser ar yr ystâd hardd hon, ger Trefynwy, gyda seibiant byr yn un o'u bythynnod gwyliau? Mae cynnyrch o'r ardd furiog a chyflenwyr lleol eraill ar gael yn eu siop, a gellir danfon prydau cartref i'ch bwthyn. Archwiliwch yr ystâd 200 erw ar deithiau cerdded natur dan arweiniad y naturiaethwr preswyl, Sam Bosanquet, a gweithgareddau ysgol goedwig i blant.
Fel arbenigwr nofio gwyllt ers dros 30 mlynedd, ethos Angela yw hybu mwynhad diogel byd natur, a pharchu a gwarchod y dŵr ar yr un pryd. Yn ymgyrchydd brwd dros ddiogelu ein hafonydd, Angela Jones oedd Pencampwr Amgylcheddol Canŵio Cymru 2021. Mae hi'n profi ansawdd dŵr afonydd yn rheolaidd, a bob amser cyn mynd â chleientiaid i nofio. Mae ei gwybodaeth enfawr a'i hegni di-ben-draw yn disgleirio, wrth iddi annog nofwyr i ddarganfod yr hwyl y gellir ei gael wrth gofleidio natur. Mae Angela'n enghraifft ryfeddol o'r cysyniad, os ydych chi'n gwneud swydd rydych chi'n ei charu, na fyddwch chi byth yn gweithio diwrnod yn eich bywyd. Mae ei chalendr llawn yn cynnwys Diwrnodau Blasu Antur sy'n cyfuno nofio gyda caiacio, Caiacio Nos ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, a Nofio Bwmerang Fawr Afon Wysg blynyddol lle mae nofwyr yn ymgymryd â her cerrynt afon Wysg i godi arian at elusen. Roedd papur newydd The Guardian wedi cynnwys sesiynau gweithgareddau Angela Jones yn eu Diwrnodau Gweithgareddau Awyr Agored Gorau yn 2021.
Yn Llyn Llandegfedd ger Brynbuga, goruchwylir y sesiynau nofio dŵr agored gan achubwyr bywyd. Mae'r llyn 434 erw hwn wedi'i achredu fel lleoliad SAFE (sef “Safe Aquatic Facility Endorsement”) Cymru, gan chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo nofio dŵr agored diogel yng Nghymru. Os ydych chi'n nofiwr hyderus ac yn teimlo'n gartrefol gyda phellterau o 400m dan do, rhowch gynnig ar un o'r cyrsiau ar Lyn Llandegfedd - maent yn amrywio o 100m i 300m. I ddechrau arni, archebwch sesiwn sefydlu, lle byddwch chi'n dysgu cynllun y cwrs, y signalau sy'n cael eu defnyddio gan yr achubwyr bywyd, beth sydd angen i chi ei wisgo, a sut i gadw'n ddiogel mewn dŵr oer. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r sesiwn sefydlu, gallwch fynd i nofio'n syth. Ar ôl hynny, cynheswch â diod boeth a thamaid i'w fwyta yn y caffi ar lan y llyn.
Cofiwch, i fwynhau'r dŵr a chadw'n ddiogel, mae'n bwysig gwybod eich cyfyngiadau eich hun ac ymddwyn yn synhwyrol. Edrychwch ar y Cod Nofio Gwyllt gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cael cyngor cynhwysfawr.