I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad
Rydym am i chi fwynhau eich amser yma, ond gofynnwn i bawb sy'n teithio i Gymru ac o amgylch Cymru barchu ein cymunedau lleol a chefn gwlad hardd bob amser.
Canllawiau coronafeirws diweddaraf Cymru.
I wneud y gorau o'ch amser yma, cynlluniwch o flaen llaw a byddwch yn ymwybodol bod angen gwisgo mygydau o hyd mewn mannau cyhoeddus dan do yng Nghymru, ac eithrio sefydliadau lletygarwch.
Cadwch lygad am y nod barcud diwydiant "Barod Amdani" ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch i gael sicrwydd eu bod yn dilyn canllawiau COVID-19 y llywodraeth a'r diwydiant, gan sicrhau bod prosesau ar waith i gynnal glendid a chynorthwyo pellter cymdeithasol/corfforol.
Efallai y bydd gan fusnesau unigol eu rheolau eu hunain i sicrhau diogelwch eich ymweliad felly cymerwch amser i ddarllen y posteri a'r arwyddion sydd yno er eich budd chi.
Efallai y bydd llai o gapasiti hefyd mewn rhai busnesau i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol felly bydd yn cyrraedd y capasiti mwyaf posibl yn gyflym. Byddwch yn amyneddgar, parchwch staff, cynlluniwch o flaen llaw a byddwch yn barod i fynd i rywle gwahanol os yw'r ciwiau'n hir.
Parhau i fod yn wyliadwrus o ran golchi dwylo a hylendid a byddwch yn ymwybodol bod gatiau, camfeydd, meinciau picnic a strwythurau awyr agored eraill yn cael eu cyffwrdd yn rheolaidd (dewch â hylif diheintio dwylo eich hunan gyda chi).
Mwynhewch ein cefn gwlad. Yn ddiogel.
Am ymweliad diogel a phleserus â'n safleoedd cefn gwlad, ac ar hawliau tramwy cyhoeddus, dilynwch y canllawiau hyn:
Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi dwylo a hylendid
Arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi'n byw gyda nhw Symptomau’r Coronafeirws
Byddwch yn barchus o ofod pobl eraill ac arhoswch yn ddiogel mewn mannau fel pontydd, giatiau moch, neu gamfeydd, nes ei bod yn ddiogel i chi barhau ar eich taith gerdded;
Peidiwch â gadael sbwriel - byddwch yn barod i fynd â'ch sbwriel adref gyda chi i ailgylchu neu waredu
Byddwch yn berchennog ci cyfrifol drwy ddilyn y Cod Cerdded Cŵn
Os yw ein meysydd parcio'n llawn neu'n brysur, dewch yn ôl dro arall a pheidiwch â pharcio ar ffyrdd mynediad neu ffyrdd cyfagos
Peidiwch ag oedi mewn meysydd parcio fel y gall eraill fynd a dod yn ddiogel.
Mae llawer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi tir preifat ac mewn rhai achosion mae ffermydd ar waith yn agos at gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau, dilynwch y cod cefn gwlad, cadwch eich pellter oddi wrth dirfeddianwyr a pharhau i ddilyn y cyfyngiadau a'r mesurau sydd ar waith i'ch diogelu chi ac eraill.
Gellir dod o hyd i fanylion am gau llwybrau oherwydd llifogydd, pontydd peryglus ac ati yma.
Mae gwybodaeth am lwybrau a hyrwyddir yn lleol ar gael yma.
Be adventure smart
Enjoy active outdoor recreation while practising good social distancing at all times
Ask yourself 3 questions before you set off:
For further information and guidance on safe active outdoor recreation, visit the AdventureSmart website.
Toilets and carparks
Most car parks and all public toilets (except White Horse lane toilets in Abergavenny) have reopened. Check the status of car parks and toilets for the sites you're planning to visit before leaving home.
Check public toilet locations in the area here.
If travelling to the Sugarloaf, please park in the Fairfield car park in Abergavenny. Parking at Fairfield is £1 all day on a Sunday.